Cifra de Lisa Lân - Misc Traditional
Veja os acordes de Lisa Lân, de Misc Traditional, e use os controles desta página para mudar o tom, ajustar a leitura e acompanhar a música enquanto toca. Ver mais cifras de Misc Traditional →
Primeiro acorde: D 7 acordes identificados
Intro: D
[Verso 1]
D G D
Bûm yn dy garu lawer gwaith.
Do lawer awr mewn mwynder maith.
Bûm yn dy gusanu Lisa gêl.
Yr oedd dy gwmni'n well na'r mêl.
[Verso 2]
D G D
Fy nghangen lân, fy nghowlad glyd.
Tydi yw'r lanaf yn y byd.
Tydi sy'n peri poen a chri.
A thi sy'n dwyn fy mywyd i.
[Verso 3]
D G D
Pan fyddai'n rhodio gyda'r hwyr,
Fy nghalon fach a dodd fel cwyr;
Wrth glywed sn yr adar mân
Daw hiraeth mawr am Lisa Lân.
[Verso 4]
D G D
Pan fyddwy'n rhodio yn yr ardd
Ymysg y blodau sydd mor hardd,
Yn torri mwyn friallu mân
Daw hiraeth mawr am Lisa Lân.
[Verso 5]
D G D
Pan fyddwy' mewn llawenydd llon,
Fe fydd poenau dan fy mron;
Wrth glywed sn y tannau mân
Daw hiraeth mawr am Lisa Lân.
[Verso 6]
D C D
Lisa, a ddoi di i'm danfon i
I roi fy nghorff mewn daear ddu?
Gobeithio doi di, f'annwyl ffrind
Hyd lan y bedd, lle rwyf yn mynd.
Outro:
Hiraeth mawr am Lisa Lân.
Hiraeth mawr am Lisa Lân.